NYTH OUTSIDE GWDIHW…..NYTHU TU ALLAN…..


I ddathlu fod yr haf wedi cyrraedd ar haul yn llenwi’r wybren [gobeithio], ar Ddydd Sul Gwyl y Banc fe fydd adar y nyth yn hedfan i’r awyr agored am lond lle o hwyl a sbri a cherddoriaeth gwych!

To celebrate the arrival of summer and that [hopefully] the sun will be shining massively in the sky, on Spring Holiday Sunday Nyth’s little birds are flying out to the open air for some great music n’ good times!

yn y maes parcio fel nas gwelwyd ef o’r blaen bydd;
in the transformed Gwdihw car-park will be;

YR ODS, TEXAS RADIO BAND, COWBOIS RHOS BOTWNNOG, MR HUW, TOKINAWA, HUW M

……a lot, lot mwy o gerddorion gwych i’w cyhoeddi’n fuan, heb son am fwyd a diod i’ch diwallu ac ambell i stondin a seid-sho a llond lle o anrhefn annwyl arferol y Nyth!

Fe fydd y maes parcio’n cael ei drawsnewid yn hafan hynod a hyfryd felly dewch yn lly i’r wyl fechan fach fydd yn cychwyn dathliadau’r haf mewn steil.

……and the rest of the line-up will be announced soon. There’s gonna be plenty of food and drink to sort you out plus a few quirky sideshows and loads of thwe notorious Nyth chaos!

The car-park will be transformed in a way never seen before, so make sure you head down to the mini micro nyth festival that’s going to kick off a summer of celebration in style!

……………….
Digwyddiadau cerddorol arbennig yn awyrgylch glyd a gwresog y ‘Gwdihw’, bar mwyaf cartrefol a hynaws Caerdydd.
Setiau acwstig, electroneg, bandiau, cerddoriaeth arbrofol a DJio gwych gan artistiaid gorau Cymru a thu hwnt.
Disgwyliwch lot fawr o hwyl, ambell i anifail plastig, hetiau gwallgo, gemau gwirion, cacen, a nifer diangen o fylbs golau tylwyth teg!

Miwsig da, Cwrw da, Bwyd da; Lle da; lot, lot gwell na aros yn ty!
…………………….
Special live music happenings in the warm surroundings of the ‘Gwdihw’, Cardiff’s lovliest and most homely bar/cafe/lounge type place.
The best bands, amazing accoustic, electronic and experimental sets, great DJ’ing by some of the best artists from Wales and beyond.
Expect a lorra, lorra laughs, a few plastic animals, stuipid hats, chaotic games, cake and an unnesseccary amount of fairy lights!

Good Music, Good Food, Good Drinks; Good Place; generally better than staying home!